Diffodd tân 'bwriadol' ger Ystrad Mynach

  • Cyhoeddwyd
Tan ystrad MynachFfynhonnell y llun, Stephen Meads
Disgrifiad o’r llun,
Roedd llawer o fwg o'r tân ar Barc Busnes Dyffryn ger Ystrad Mynach.

Mae diffoddwyr wedi llwyddo i ddiffodd tân ar stad ddiwydiannol ger Ystrad Mynach, oedd wedi cau ffordd am gyfnod.

Cafodd diffoddwyr eu galw am 08.46 bore 'ma oherwydd tân teiars ar Barc Busnes Dyffryn, rhwng Caerffili a Llanbradach.

Dywedodd Heddlu Gwent bod y tân wedi dechrau mewn sgip, a'i fod wedi ei gynnau yn fwriadol.

Cafodd yr A469 ei gau am gyfnod, oherwydd bod mwg yn cael ei chwythu ar draws y ffordd.

Dywedodd Heddlu Gwent: "Mae'r ffordd bellach wedi ei hailagor ac mae pobl wedi dychwelyd i'r unedau busnes."

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol