Henson yn cael cyfle yn y gêm dreialu
- Cyhoeddwyd

Bydd Gavin Henson yn cael y cyfle i ddangos ei ddoniau lle ddechreuodd ei yrfa, wedi iddo gael ei enwi ar gyfer y gêm dreialu yn Abertawe rhwng y rheini sy'n debygol o fynd ar y daith i Dde Affrica dros yr haf a'r rhai alle fynd.
Mae Cymru wedi enwi 52 o chwaraewyr i baratoi ar gyfer y gêm dreialu yn Stadiwm Y Liberty ar Fai 30.
Capten y Tîm Tebygol yw Alun Wyn Jones, gyda Mathew Rees yn gapten ar y Tîm Posib.
Yng ngharfan y Tîm Tebygol, mae'r hyfforddwr Rob Howley wedi enwi dau chwaraewr sydd heb ennill cap, sef prop y Dreigiau, Owen Evans a maswr Y Gweilch, Sam Davies.
Mae hyfforddwr y Tîm Posib, Robin McBryde, wedi dewis 10 chwaraewr sydd heb chwarae dros Gymru gan gynnwys Owen Williams, maswr sydd wedi disgleirio gyda'r Leicester Tigers.
Traddodiad
Chwaraeodd Rob Howley yn y gêm brawf ddiwethaf yng Nghymru yn 2000 a dywedodd bydd y gêm yn rhoi llwyfan i'r chwaraewyr gystadlu yn erbyn ei gilydd.
Meddai Howley: "Mae'n mynd â ni yn ôl at y treialon traddodiadol a rhoi cyfle i chwaraewyr i roi eu llaw i fyny ar gyfer y crys."
"Bydd y ddau dîm yn chwarae'n galed gyda chwaraewyr â phwynt i brofi.
"Mae'n gêm bwysig yn ein paratoadau cyn y daith i Dde Affrica."
Ychwanegodd Robin McBryde: "Mae'r drws bob amser ar agor mewn rygbi rhyngwladol a bydd yn dda gweld y chwaraewyr yn yr wythnos yn arwain i fyny at y gêm.
"Mae yna bwysau bob amser mewn treialon."
Aeth McBryde ymlaen i ddweud ei bod yn "wych" cael cyn-gapten Cymru, Matthew Rees ar ôl gwella o ganser.
Meddai McBryde: "Nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod chwarae'r Gleision wedi gwella pan ddaeth yn ôl. Mae'n wych ei weld yn chwarae mor dda".
Tîm Tebygol:
Blaenwyr: Gethin Jenkins (Gleision) , Owen Evans (Dreigiau) , Rhys Gill (Saracens) , Ken Owens (Scarlets) , Scott Baldwin (Gweilch) , Adam Jones (Y Gweilch) , Samson Lee (Scarlets) , Alun Wyn Jones (Gweilch) (Capten) , Luke Charteris (Perpignan) , Jake Ball (Scarlets) , Ryan Jones (Bryste) , Aaron Shingler , (Scarlets) , Josh Navidi (Gleision) , Dan Lydiate (Racing Metro) , Taulupe Faletau (Dreigiau)
Olwyr: Rhodri Williams (Scarlets) , Mike Phillips (Racing Metro) , Dan Biggar (Gweilch) , Sam Davies (Gweilch) , Jon Davies (Scarlets) , Jamie Roberts (Racing Metro) , Gavin Henson (Caerfaddon) , Alex Cuthbert (Gleision) , George North (Northampton) , Hallam Amos (Dreigiau) , Liam Williams (Scarlets)
Tîm Posib:
Blaenwyr : Paul James (Caerfaddon) , Phil Price (Dreigiau) , Rob Evans (Scarlets) , Matthew Rees (Gleision) , Kristian Dacey (Gleision) , Rhodri Jones (Scarlets) , Scott Andrews (Gleision), Aaron Jarvis (Gweilch) , Bradley Davies (Gleision) , Andrew Coombs (Dreigiau) , Ian Evans (Gweilch) , Macauley Cook (Gleision) , Josh Turnbull (Scarlets), James Davies (Scarlets), Dan Baker (Gweilch).
Olwyr: Gareth Davies (Scarlets) , Lloyd Williams (Gleision) , James Hook (Perpignan) , Matthew Morgan (Gweilch) , Harry Robinson (Gleision) , Owen Williams (Caerlyr) , Steven Shingler (Scarlets) , Cory Allen (Gleision) , Jonathan Spratt (Gweilch) , Tom Prydie (Dreigiau) , Jordan Williams (Scarlets).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2014