Bethan Jenkins: Trafod ei phrofiad o iselder

  • Cyhoeddwyd
Bethan Jenkins
Disgrifiad o’r llun,
Bethan Jenkins AC yn siarad am iselder.

Mae'r AC Bethan Jenkins wedi agor ei chalon am ei phrofiad personol o iselder fel rhan o ymgyrch codi ymwybyddiaeth yr elusen iechyd meddwl Mind.

Ffilmiodd myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYCDS) ffilm wyth munud wedi ei ysgrifennu gan Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru, Gorllewin De Cymru.

Bydd ei stori a leisiwyd gan yr actores Michelle Patterson, yn mynd ar wefan Mind fel un o 40 stori am brofiadau unigolion sy'n nodi wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl sy'n gorffen ar Fai 18.

Penderfynwyd ar 40 stori, oherwydd 40 mlynedd sydd ers sefydlu Mind.

'Torri'r stigma'

Dywedodd Ms Jenkins ei bod yn bwysig i "dorri'r stigma" sy'n gysylltiedig ag iselder.

Meddai: "Roedd hi'n anodd mynegi fy meddyliau ar salwch meddwl. Ond mae'r prosiect hwn yn bwysig iawn i dorri i lawr y stigma."

Meddai Janet Pardue-Wood, cyfarwyddwr dros dro Mind Cymru: "Fel rhan o'n dathliadau pen-blwydd yn 40 oed rydym am i leisiau pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru gael eu clywed.

"Nod 40 stori yw gwneud hyn yn ogystal â herio'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.

"Gall rhannu stori fod yn brofiad cathartig a gall helpu i ddatblygu hunanfynegiant a hyder yn ogystal â dangos ei bod yn bosibl i oresgyn rhwystrau a galluogi eraill i wybod nad ydynt ar ben ei hun."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol