BBC Cymru Fyw

Adroddiad: trefn treth cyngor 'yn annheg'

Published
image captionFe ddywed Gerry Holtham bod y system fel ag y mae hi yn annheg i berchnogion y tai rhataf

Mae trefn bresennol treth cyngor yn annheg i berchnogion y tai rhataf, yn ôl economegydd blaenllaw.

Gerry Holtham yw cyn-gadeirydd Comisiwn Holtham a sefydlwyd yn 2007 i ystyried sut mae Cymru'n cael ei hariannu.

Mewn adroddiad newydd i'r Sefydliad Materion Cymreig mae'n dadlau bod perchnogion y tai rhataf yn talu mwy o ganran o werth y tŷ na pherchnogion tai drud.

Ar gyfer tai yn y band isaf - sy'n werth hyd at £44,000 - mae'r dreth cyngor ychydig yn llai na 2% o werth yr eiddo.

Ond ar gyfer tai ar y band uchaf - sy'n werth dros £424,000 - mae'r dreth tua 0.5% o werth yr eiddo.

Arbed £50m

Fel rhan o ddadl ehangach am drosglwyddo pwerau trethu i'r Cynulliad, mae Mr Holtham yn argymell system sy'n fwy teg, meddai.

Byddai hynny'n golygu bod treth cyngor tai yn y band isaf - Band A - bron yn haneru o £851 i £459 ond fe fyddai tai yn y band uchaf yn cynyddu o £2860 i £5565.

Dywedodd y byddai system o'r fath yn arbed £50 miliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru gan y byddai llai o fudd-dal treth cyngor yn cael ei dalu wrth i filiau Band A ddisgyn yn sylweddol.

Pe bai treth incwm yn cael ei datganoli'n llawn i Gymru, mae Mr Holtham yn dweud y gallai Llywodraeth Cymru gwtogi'r dreth i'r rhai sy'n ennill y cyflogau mwyaf gan y bydden nhw'n talu mwy o dreth cyngor.

Fe fyddai hyn yn groes i'r hyn sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU wedi ail ran Comisiwn Silk.

Maen nhw'n dweud mai dim ond yr hawl i godi neu ostwng treth incwm i bawb ddylai fod gan Lywodraeth Cymru pe bai refferendwm yn rhoi'r hawl iddyn nhw gael pwerau dros dreth incwm.

Straeon perthnasol

  • Pensiynwraig dlawd wedi ail ddefnyddio papur toiled