BBC Cymru Fyw

Herio'r 'dreth ystafell wely'

Published
image captionMae'r teulu wedi derbyn grant dewisol gan Gyngor Sir Penfro am flwyddyn
Bydd yr Uchel Lys yn Llundain yn clywed achos cwpwl o Sir Benfro ddydd Mercher sy'n herio'r hyn sy'n cael ei adnabod gan ei wrthwynebwyr fel y 'dreth ystafell wely'.
Mae Paul a Susan Rutherford o Glunderwen yn gofalu am eu hwyr Warren, sy'n 13 oed ac yn anabl.
Mae gan Warren gyflwr o'r enw Syndrom Potokoi-Shaffer - cyflwr prin iawn sy'n golygu nad yw'n medru cerdded, siarad na bwydo'i hun, ac mae angen gofal gan ddau oedolyn 24 awr y dydd.
Mae ei nain a'i daid yn gofalu amdano ond maen nhw'n cael cymorth gofalwyr proffesiynol sy'n aros dros nos o leia' dwy noson yr wythnos.
Mae'r teulu yn byw mewn byngalo tair llofft, a phan gyflwynwyd y diwygiadau i fudd-daliadau gan lywodraeth y DU ym mis Ebrill y llynedd, mae'r rheolau'n dweud bod y teulu'n 'tan-feddiannu' yr eiddo ac mae eu budd-dal tai wedi cael ei gwtogi.
Yn ôl y rheolau, mae caniatâd i gael ystafell wely ychwanegol os yw'r person sy'n hawlio, neu eu partner, yn anabl, ond does dim darpariaeth yn y ddeddf i blant sydd angen gofalwr.

Dim cydnabyddiaeth

Dywedodd Mr Rutherford: "Rydym yn dadlau bod hyn yn gwahaniaethu yn erbyn plant anabl.
"Ry'n ni'n byw mewn byngalo sydd wedi ei addasu. Diolch i grant gan Lywodraeth Cymru fe gafodd gwerth £20,000 o addasiadau pellach eu gwneud ym mis Medi, ac er bod Warren angen gofalwr i aros dros nos a storio'i offer, rydym yn cael ein hystyried i fod yn 'tan-feddiannu'."
Wedi cyfres o apeliadau fe gafodd y teulu grant dewisol gan Gyngor Sir Penfro i dalu'r budd-dal a gollwyd, ond am flwyddyn yn unig.
Ychwanegodd Mr Rutherford: "I lawer mae £14 yr wythnos yn swm pitw... ond mae'n lot i ni.
"Y peth mwyaf syfrdanol yw nad oes cydnabyddiaeth o gwbl gan y llywodraeth [yn San Steffan] ein bod yn arbed o leia' £250,000 y flwyddyn drwy ofalu am Warren ein hunain.
"Dydyn ni ddim yn gofyn am glod am hyn, dim ond cymorth mewn amgylchiadau anodd."
Dywedodd Adran Waith a Phensiynau'r llywodraeth bod diwygio budd-dal tai yn y sector cymdeithasol yn hanfodol, a'u bod yn monitro'r newidiadau yn agos.