Gwesty Tŷ Gwyn: Gohirio'r penderfyniad
- Cyhoeddwyd

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd wedi gohirio'r penderfyniad ynglŷn â rhoi hawl cynllunio ar gyfer ail-wneud gwesty'r Tŷ Gwyn yn Abersoch.
Roedd adroddiad i'r pwyllgor yn argymell na ddylai'r gwaith gwerth £8 miliwn ar y gwesty fynd yn ei flaen, ar y sail nad yw'n cynnwys digon o gyfraniad tuag at dai fforddiadwy lleol.
Roedd y pwyllgor yn cytuno, ond yn lle gwrthod y cais fe benderfynon nhw ei ohirio a gofyn i'r datblygwr gynyddu'r cyfraniad.
Mi fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yn y man, yn dilyn y trafodaethau.
Tai fforddiadwy
Mae'r cyngor yn credu y byddai'r gwesty yn dod a £1.5 miliwn i mewn i'r economi leol bob blwyddyn.
Ac yn ôl y datblygwr, byddai ailwampio gwesty'r Tŷ Gwyn, fyddai'n cynnwys adeiladu 42 ystafell wely, sba, pwll nofio, campfa ac 18 o fflatiau yn creu 100 o swyddi.
Polisi'r cyngor yw bod gwerth 30% o'r tai neu fflatiau sydd ynghlwm â'r prosiect angen bod yn rhai fforddiadwy. Mae'r datblygwr wedi cynnig rhoi £150,000 tuag at dai fforddiadwy oddi ar y safle, ond nid yw hynny gyfystyr a 30% o'r fflatiau.
Roedd yr adroddiad yn dweud bod cyngor technegol Cyngor Gwynedd yn "nodi bod achlysuron pan mae ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol yn drech na'r budd cymdeithasol".
Roedd yn dweud hefyd "nad oes unrhyw dystiolaeth sy'n profi na fyddai'n bosib i'r cynllun gynnwys elfen tuag at dai fforddiadwy, ac nid yw'r cyfraniad sy'n cael ei gynnig yn ddigonol".
Yn dilyn penderfyniad y pwyllgor, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Yng nghyfarfod cynllunio'r Cyngor ar 19/5/14, penderfynodd aelodau i ohirio'r cais ar gyfer adeiladu gwesty newydd a 18 uned byw ar hen safle gwesty'r White House, Abersoch er mwyn galluogi swyddogion cynllunio i ofyn am fwy o gyfraniad ariannol gan yr ymgeisydd er mwyn darparu tai fforddiadwy oddi ar y safle."