'Cenhedlaeth gyfan' heb addysg bellach
- Cyhoeddwyd

Mae Undeb y Myfyrwyr (NUS) yng Nghymru yn dweud na fydd "cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc" yn gallu cael addysg bellach oherwydd toriadau i wariant ar gludiant cyhoeddus.
Yn ôl ymchwil gan yr NUS mae mwyafrif o fyfyrwyr mewn addysg bellach yng Nghymru'n dibynnu ar un ffurf neu'r llall o drafnidiaeth gyhoeddus neu fws arbennig i deithio i'r coleg ac yn ôl.
Mae rhai cwmnïau bysus eisoes wedi dweud efallai y bydd rhaid iddyn nhw ddiddymu rhai gwasanaethau a chwtogi ar eraill.
Fe ddaw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gwtogi'r gefnogaeth i wasanaeth bysus o 25% y llynedd.
'Ail gyfle'
Dywedodd Beth Button, Is-Lywydd NUS Cymru wrth BBC Cymru:
"Mae hyn yn golygu y bydd gennym genhedlaeth gyfan o bobl ifanc sydd ddim yn mynd i fedru mynd i goleg.
"I lawer o'r myfyrwyr yma, addysg bellach yw eu hail gyfle. Os nad ydyn nhw'n medru fforddio mynd i'r coleg, yna rydym yn dwyn y cyfle yna oddi arnyn nhw."
Dangosodd ymchwil NUS Cymru bod gan 6 o bob deg myfyriwr addysg bellach gostau'n ymwneud â theithio, a hefyd :-
- Bod 1 o bob 5 yn talu £20 neu fwy bob wythnos;
- 30% o'r rhai wnaeth ymateb ddim yn derbyn unrhyw fath o gymorth tuag at eu costau teithio;
- 69% o'r rhai wnaeth ymateb sydd yn derbyn cymorth yn dibynnu ar hynny i deithio i'r coleg.
Mae rhai cyrsiau'n gofyn i fyfyrwyr astudio ar amryw safleoedd, ond dydyn nhw ddim o reidrwydd yn derbyn cymorth am yr holl deithiau rhwng y safleoedd sy'n eu gadael yn gyfrifol am dalu eu costau eu hunain am ran o'r wythnos o leiaf.
'Penderfyniadau anodd'
Mae'n gyfrifoldeb ar bob awdurdod lleol i gyhoeddi polisi yn datgan eu darpariaeth ar gyfer trafnidiaeth o'r cartref i ganolfan astudio i bob dysgwr rhwng 16 ac 19 oed.
Ond mae cost a lefel y cymhorthdal, a'r dull o gludo'r myfyrwyr, yn cael ei benderfynu gan bob awdurdod yn unigol gan arwain at wahaniaethau i fyfyrwyr ar draws Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
"Er bod cynghorau lleol ar draws Cymru wedi ymrwymo i warchod mynediad at addysg bellach i bob dysgwr yng Nghymru, mae'r diffyg o £290 miliwn yng nghyllideb llywodraeth leol yn y flwyddyn i ddod yn golygu bod penderfyniadau anodd i'w gwneud am ba wasanaethau sy'n realistig i'w cynnal.
"Mae newidiadau i drefniadau cludiant i rai dros 16 oed hefyd yn dibynnu ar ffactorau economaidd ehangach megis diddymu rhai teithiau gan gwmnïau cludiant lleol am nad ydyn nhw'n hyfyw yn economaidd."
'Angen cysondeb'
Mae'r colegau hefyd yn poeni. Gan fod y cymorth gan gynghorau unigol yn amrywio, a nifer o golegau'n darparu addysg i fyfyrwyr o fwy nag un ardal cyngor, mae'n golygu bod myfyrwyr gwahanol yn derbyn lefel wahanol o gymorth.
Mark Jones yw cadeirydd Colegau Cymru, a dywedodd:
"Fyddwn ni ddim yn ei ddisgrifio fel loteri cod-post, ond yn sicr mae'r dulliau gweithredu'n wahanol felly gall y lefel o gymhorthdal fod yn wahanol mewn llefydd gwahanol.
"Dydw i ddim yn credu bod y gwahaniaeth yn eithafol, ond rwy'n credu bod angen cysondeb fel bod myfyrwyr yn gwybod faint o gymorth y byddan nhw'n ei dderbyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2013