Morgannwg yn debyg o golli

  • Cyhoeddwyd
Morgannwg

Unwaith eto mae Morgannwg yn wynebu brwydr ar y diwrnod olaf i achub gêm yn y bencampwriaeth.

Mae Morgannwg wedi colli naw wiced yn eu hail fatiad am 185, sy'n golygu bod ganddyn nhw fantais o ddim ond 64 dros Hampshire yn Southampton.

Ond wrth gwrs mae gan y tîm cartref yr ail fatiad eto i ddod.

Yn dilyn batiad cyntaf Morgannwg o 224, fe lwyddodd Hampshire i gyrraedd cyfanswm o 345 yn eu batiad nhw, ac roedd angen felly i fatwyr Morgannwg sgorio'n drwm ac, yn bwysicach, peidio colli wicedi ddydd Mawrth.

Ond methiant oedd yr ymdrech yn y ddau beth.

Will Bragg (74) a Jim Allenby (47) oedd yr unig ddau i greu rhywfaint o argraff, ond Dean Cosker a Thomas Helm fydd yn ddau yn y canol ar ddechrau'r diwrnod olaf ddydd Mercher.

Go brin y bydd y ddau'n medru aros yno'n hir iawn, ac oni bai fod y tywydd yn ymyrryd, mae'n edrych yn debygol iawn y bydd Morgannwg yn colli am y tro cyntaf y tymor hwn.

PENCAMPWRIAETH Y SIROEDD - Diwedd y trydydd diwrnod :

Morgannwg (batiad cyntaf) = 224

(ail fatiad) = 185 am 9

Hampshire (batiad cyntaf) = 345