Heddlu'n apelio wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar yr A55 brynhawn Mawrth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 4:50yh wedi i gar Citroen daro'r ffens ganol cyn gadael y ffordd ar y llain galed yr ochr arall.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar y ffordd ddwyreiniol ger Llanddulas yn ymyl Bae Colwyn.
Roedd dau berson yn teithio yn y car. Fe gafon nhw'u cludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ond bu farw un ohonynt o'i anafiadau.
Roedd y ddau'n hanu o sir Gorllewin Efrog. Mae'r teulu wedi cael gwybod.
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.