Trafod dyfodol canolfan reoli
- Cyhoeddwyd

Fe fydd cynnig gan Wasanaeth Tân y Gorllewin a'r Canolbarth i symud eu stafell rheoli o Gaerfyrddin i Ben-y-bont ar Ogwr yn cael eu trafod gan gynghorwyr Sir Gaerfyrddin ddydd Mercher.
Ar hyn o bryd mae'r ystafell reoli wedi ei leoli yn yn y Ganolfan Cyfathrebiadau Brys ar y Cyd yn Llangynnwr, Caerfyrddin.
Mae'r ganolfan yno hefyd yn cynnwys y Gwasanaeth Ambiwlans a Heddlu-Dyfed Powys.
Ond mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gorllewin a'r Canolbarth wedi bod yn trafod symud eu canolfan i adeilad newydd ar safle pencadlys Heddlu'r De ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Yno byddant yn rhannu adnoddau gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Mae'r ganolfan bresennol yng Nghaerfyrddin yn cyflogi 22 o bobl.
Mae nifer o gynghorwyr sir wedi mynegi pryder am y cynnig i symud y ganolfan.
Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub y Gorllewin a'r Canolbarth wedi cytuno i wneud arbedion o £2.6 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol 2014-15.
Bydd angen i'r awdurdod arbed £1.5 miliwn ychwanegol y flwyddyn ganlynol.
Gwnaed cais i Wasanaeth Tân ac Achub y Gorllewin a'r Canolbarth am sylw.