Byron Davies angen ystyried ei sefyllfa, medd y Llywydd
- Cyhoeddwyd

Mae Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler yn dweud y dylai Aelod Cynulliad Ceidwadol sydd yn gwrthod mynd i un o bwyllgorau'r Cynulliad ystyried ei sefyllfa.
Dyw Byron Davies ddim wedi bod i wyth o gyfarfodydd y Pwyllgor Menter a Busnes am fod yna rhwyg o fewn y blaid Geidwadol.
Mae'n gwrthod mynychu oni bai fod y cadeirydd newydd, yr AC Ceidwadol William Graham yn cael ei ddiswyddo.
Mae'n anhapus gyda'r penodiad am nad oedd William Graham yn aelod o'r pwyllgor cyn hynny.
Dywedodd Rosemary Butler: "Fel Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, dw i'n disgwyl i'r holl aelodau sydd wedi cael eu hethol i wasanaethu ar y pwyllgorau i fynychu cyfarfodydd ac i gymryd rhan ym musnes y pwyllgorau.
"Mae'r system bwyllgorau yn chwarae rhan flaenllaw wth graffu ar lywodraeth Cymru a datblygu polisi ac mi ddylai'r system gael ei thrin gyda pharch.
"Os nad yw aelodau yn medru mynd i'r cyfarfodydd, dylen nhw sicrhau bod rhywun yn camu i'r bwlch yn unol gyda'r gorchmynion sefydlog.
"Os ydyn nhw yn anfodlon mynychu, dylen nhw ystyried eu sefyllfa."
Straeon perthnasol
- 12 Mai 2014
- 12 Chwefror 2014
- 14 Chwefror 2014
- 13 Chwefror 2014