Tân yn dinistrio ffosilau 300 miliwn mlwydd oed

  • Cyhoeddwyd
The charred fossils cannot be salvaged
Disgrifiad o’r llun,
Mi gafodd rhai o'r ffosilau eu dinistrio yn llwyr yn y tân

Mae tân bwriadol ar safle hen waith dur ym Mrymbo wedi dinistrio cannoedd o ffosilau hynafol.

Cafodd fforest wedi ei ffosileiddio ei ddarganfod ryw 10 mlynedd yn ôl ar y safle, a'r gred yw ei fod yn 300 miliwn mlwydd oed.

Dim ond 10 esiampl debyg sydd yn bodoli yn y byd, ond cafodd rhai o'r samplau eu dinistrio yn y tân.

Yn ôl Colin Davies o grwp etifeddiaeth Brymbo, roedd rhai o'r ffosilau pwysicaf wedi eu storio mewn safle arall ac felly dydyn nhw ddim wedi eu dinistrio. Roedd rhai eraill wedi eu hanfon i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

"Mae o'n gam yn ôl ond wneith hyn ddim ein stopio ni. Mae gyda ni frwdfrydedd i barhau."

Mae fandaliaeth wedi digwydd ar y safle sawl gwaith ers i'r gwaith dur ddod i ben yno, ond mae Mr Davies dal yn obeithiol y bydd y goedwig yn dod yn atyniad twristaidd.