Y Gleision: dim archwiliad am fisoedd cyn y trychineb

  • Cyhoeddwyd
Rescue workers at Gleision drift mineFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mi wnaeth pedwar o'r glowyr farw ar ôl i ddŵr lifo i'r pwll.

Doedd pwll glo'r Gleision ddim wedi ei archwilio am fisoedd cyn y trychineb er bod arolygwyr yn ymweld â phyllau cyfagos yn gyson.

Yn Llys y Goron Abertawe dywedodd Tony Forster, oedd ar y pryd yn arolygydd, fod yna sawl rheswm am hynny gan gynnwys tywydd gwael.

Cafodd David Powell, 50, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, eu lladd wedi i hyd at 650,000 galwyn o ddŵr lifo i'r lofa.

Mae Mr Fyfield, 58 oed, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad ac mae'r cwmni oedd yn berchen ar y safle, MNS Mining, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.

Yn llys mi ddywedodd Mr Forster nad oedd y pwll wedi ei archwilio ers mis Mai 2010.

Mi oedd o wedi bwriadu mynd yno eto ym mis Awst a Rhagfyr ond wnaeth o ddim. Eira ym mis Rhagfyr wnaeth ei atal rhag mynd y tro hwnnw, meddai.

'Mwy o risg mewn pyllau mawr'

Clywodd y llys fod papur newydd wedi anfon e-bost wedi'r trychineb yn gofyn i'r awdurdodau pa mor aml roedd 'na ymweliadau i byllau glo bach.

Yr ateb oedd unwaith y flwyddyn ac yn y llys mi ddywedodd Mr Forster ei fod yn cytuno efo'r ateb hynny.

Dywedodd Elwen Evans QC, sy'n amddiffyn Mr Fyfield, nad oedd hynny wedi digwydd gyda phwll glo'r Gleision.

Ateb Mr Foster oedd nad oedd y pwll yn gweithio trwy'r amser.

Dywedodd Ms Evans fod yna ymweliadau cyson i byllau eraill cyfagos.

"Mae hynny yn gywir. Roedden nhw yn byllau mwy ac mi oedd yna fwy o botensial i rywbeth fynd o'i le. Mae'r rhain yn lofeydd nwy gyda'r potensial i fynd ar dân neu fod 'na ffrwydrad, " meddai Mr Forster.

Ddydd Mawrth mi gyfaddefodd Mr Forster y gallai yna fod potensial gwrthdaro buddiannau am mai fo oedd y prif ymchwiliwr i'r trychineb ac roedd yn archwiliwr yn y Gleision.

Gofynnodd Ms Evans iddo oedd o yn credu bod hanes yr ymchwiliad yn "atgyfnerthu'r awgrym na ddylet ti fod wedi cymryd y rôl fel y prif ymchwiliwr."

Ateb Mr Forster oedd: "Na dydw i ddim."