Cynghorwyr Caerfyrddin yn erbyn symud canolfan reoli
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr Caerfyrddin wedi pleidleisio yn unfrydol yn erbyn cynlluniau i symud canolfan rheoli tân o Lagynnwr yng Nghaerfyrddin i Ben-y-bont ar Ogwr.
Mae'r cynllun yn golygu uno Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Tân De Cymru a heddlu De Cymru fel bod un ganolfan rheoli ym Mhen-y-bont.
Y bwriad oedd bod y ganolfan yn cychwyn ar y gwaith ym mis Ebrill 2016 ond mae cynghorwyr wedi cefnogi cynnig cynghorydd Plaid Cymru Alun Lenny oedd wedi galw am ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae Arwel Fowler - oedd yn Ddirprwy Brif Swyddog Tân - wedi dweud ei fod yn gwrthwynebu'r cynlluniau. Mae 'na bryderon wedi codi am ddiogelwch y cyhoedd, diffyg ymgynghoriad a gwybodaeth am enwau llefydd yn y Gymraeg.
Yn ôl y cynghorydd Calum Higgins fe ofynwyd i aelodau'r awdurdod i bledleisio eu bod wedi "nodi'r" adroddiad ynglŷn â sefydlu canolfan ond nid i gymeradwyo y cynnig.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2014