Plaid Cymru'n honni bod archwiliadau'n golygu 'ailwampio polisi'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Tywysoges Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Roedd adroddiad 2012 yn cyferio at ddwy ward yn Ysbyty Tywysoges Cymru

Mae'r bwriad i gynnal archwiliadau mewn ysbytai wedi adroddiad damniol yn golygu ailwampio polisi sy'n dair blynedd oed, medd Plaid Cymru.

Ddydd Mawrth mi gafodd adroddiad damniol ei gyhoeddi am fethiannau difrifol yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot oedd yn dyddio'n ôl dair blynedd.

Erbyn hyn, mae pryderon am rôl archwilwyr am eu bod nhw wedi ymweld ag un o'r ysbytai ym mis Gorffennaf 2012.

Dechreuodd Arolygiaeth Iechyd Cymru archwiliadau dirybudd i ofal cleifion oedrannus mewn ysbytai yn 2011 ond, yn ôl Plaid Cymru, mae'n ymddangos eu bod wedi dod i ben rywbryd yn 2012.

Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, wedi dweud: "Roedd canfyddiadau'r adroddiad damniol yn sioc i ni i gyd.

'Dod i ben'

"Mae'n bryder bod y gweinidog iechyd wedi ymateb wrth ailwampio addewid i gynnal archwiliadau dirybudd, addewid gafodd ei wneud yn gynta yn 2011 ...

"Er gwaetha 12 o archwiliadau ers 2011, mae'n ymddangos eu bod wedi dod i ben yn 2012.

"Mae angen i'r gweinidog ddweud beth sy' wedi digwydd. Pam y daeth yr archwiliadau i ben?"

Eisoes mae'r gweinidog Mark Drakeford wedi dweud bod y canfyddiadau'n sioc ac wedi ymddiheuro i gleifion a'u teuluoedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd tîm annibynnol o dan arweiniad yr Athro June Andrews yn cynnal archwiliadau dirybudd mewn ysbytai.

Hefyd mae'r llywodraeth wedi dweud y bydd yr arolygiaeth yn cynnal archwiliadau chwe mis wedi i waith y tîm annibynnol ddod i ben.

Mi oedd adroddiad am archwiliadau dirybudd mewn ysbyty yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg ddwy flynedd yn ôl yn dweud bod y gofal i gleifion yn "sensitif".

Yr arolygiaeth oedd yn archwilio a hynny i ddwy ward yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont.

Yn bositif

Yr adeg honno mi aethon nhw i Ward 19 ar gyfer pobl hŷn a ward 4 ar gyfer cardioleg.

Roedd yna sawl argymhelliad yn yr adroddiad ond roedd y ddogfen ar y cyfan yn bositif.

"Yn gyffredinol, mi welon ni staff yn cyfathrebu'n dda gyda chleifion ac yn darparu gofal yn sensitif," meddai.

"Hefyd mi oedd cleifion ar y ddwy ward yn cymeradwyo agwedd y staff," meddai'r adroddiad.

Dywedodd yr adroddiad bod y staff yn broffesiynol a bod y cleifion yn derbyn gofal da yn achos y ward i bobl hŷn. "Roedd y cleifion i gyd yn ymddangos yn lân ac fel eu bod yn cael gofal da."

Yn achos y ward cardioleg dywedodd y ddogfen bod cofnodion cleifion yn hawdd i'w dilyn, ei bod hi'n ymddangos bod y cleifion yn cael gofal da ac yn cael help staff pan oedd angen mynd i'r toiled.

Ymhlith yr argymhellion roedd gofyn i'r bwrdd iechyd adolygu lefelau staffio ar un o'r wardiau, rhoi cyfle i gleifion olchi eu dwylo cyn cael bwyd ac adolygu hyd llenni rhwng pob gwely.