Teyrnged i ddyn o Gorwen wedi damwain farwol yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd

Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddyn 26 oed fu farw wedi gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A5 yn Sir Ddinbych ddydd Sul, Mai 11.
Bu farw Ieuan Christopher Hearn o Gorwen o'i anafiadau yn yr ysbyty ddydd Mercher.
Dywedodd ei fam y byddai "bwlch enfawr" yn eu bywydau.
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig wedi 1:20pm ddydd Sul oherwydd gwrthdrawiad rhwng Corwen a Llangollen. Roedd Peugeot gwyn a Volkswagen Passat gwyrdd wedi taro yn erbyn ei gilydd.
Ddydd Mercher dywedodd yr heddlu bod gyrrwr y Peugeot wedi marw o'i anafiadau.
'Bwlch enfawr'
Cafodd gyrrwr y Volkswagen fân anafiadau.
Dywedodd mam Ieuan, Philomena Hearn: "Bydd hon yn golled fawr i'r teulu a'i ffrindiau a bydd bwlch enfawr yn ein bywydau.
"Hoffwn ddangos ein gwerthfawrogiad i staff yr ambiwlans a'r ysbyty wnaeth bob dim i geisio achub ei fywyd a gofynnwn am amser a llonydd i geisio dod i delerau gyda'r newyddion ofnadwy."
Ychwanegodd y Sarjant Gwyndaf Jones o Uned Heddlua Ffyrdd Llanelwy: "Mae ymchwiliad llawn i'r achos wedi dechrau a dylai unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd ffonio'r heddlu ar 101, gan ddyfynnu'r rhif RC14069696."