Ffigyrau gwrando Radio Cymru a Radio Wales wedi codi

  • Cyhoeddwyd

Mae'r nifer sy'n gwrando ar Radio Cymru a Radio Wales wedi cynyddu yn ôl y ffigyrau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Rajar, y corff sy'n gyfrifol am fesur cynulleidfaoedd radio.

Roedd 3,000 yn fwy yn gwrando ar Radio Cymru yn ystod chwarter cyntaf 2014 nag yn y tri mis blaenorol.

Roedd yr orsaf yn cyrraedd 143,000 o wrandawyr bob wythnos, sydd 24,000 yn uwch na'r un cyfnod yn 2013 pan gwympodd y ffigwr i'w lefel isaf erioed.

Cafodd amserlen newydd Radio Cymru ei chyflwyno ar 10 Mawrth, tuag at ddiwedd y cyfnod dan sylw y tro hwn.

Cododd nifer gwrandawyr Radio Wales o 6,000 dros y cyfnod o dri mis, sydd 10,000 yn fwy na'r un cyfnod yn 2013.

Erbyn hyn mae Radio Wales yn cyrraedd 472,000 o bobl bob wythnos.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol