Cyngor yn 'ildio' ar drafnidiaeth Ysgol Rhydywaun
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Merthyr Tudful wedi penderfynu peidio gofyn i ddisgyblion chweched dosbarth dalu am drafnidiaeth ysgol.
Yn ôl disgyblion, Ysgol Gyfun Rhydywaun, mae hyn wedi sicrhau dyfodol i chweched dosbarth yr ysgol.
Fel rhan o gynllun o doriadau ehangach, fe benderfynodd y cyngor ymgynghori ar gynnig i godi tâl am drafnidiaeth i ddisgyblion dros 16 oed.
Ond wedi ymgynghoriad, a phrotestiadau mawr yn lleol mae'r cyngor wedi tynnu'r cynnig yn ôl.
'Brwydr i'w hymladd'
Roedd ofnau y gallai'r polisi newydd gael effaith arbennig ar Ysgol Gyfun Rhydywaun gan fod tua hanner disgyblion yr ysgol yn teithio i'r ysgol ar fysiau o Ferthyr Tudful.
Yn ôl y protestwyr, roedd y polisi newydd yn peryglu dyfodol chweched dosbarth yr ysgol a hawl pobl ifanc yr ardal i gael addysg Gymraeg.
Bu disgyblion yr ysgol yn ymgyrchu'n yn erbyn y cynnig - gan gynnwys protest yng nghanol Merthyr.
Ar eu gwefan dywedodd y cyngor sir eu bod yn "ymdrechu'n gyson i geisio gwneud ei holl wasanaethau yn fwy effeithiol ac effeithlon".
Ychwanegodd y datganiad: "Cynigiwyd darparu cludiant am ddim i'r ysgol o fis Medi 2015 yn unol â'r canllawiau statudol."
'Rhyddhad'
Mae'r rhain yn cynnwys darparu cludiant am ddim i blant sydd mewn ysgol uwchradd neu addysg ôl 16 ac sy'n byw ymhellach na thaith gerdded tair milltir o'r ysgol, yn hytrach na'r pellter presennol o ddwy filltir.
Dywedodd Morgan Powell, disgybl yn Ysgol Rhydywaun: "Roedden ni'n ecstatig i glywed am ildio Cyngor Merthyr ar y mater hwn ac mae yna naws o ryddhad a dathlu trwy gydol yr ysgol.
"Yn awr gallwn barhau â'n harholiadau, gan wybod bod ein hymgyrch brwd yn erbyn y cynnig wedi sicrhau dyfodol ar gyfer ein Chweched Dosbarth ac i'r iaith Gymraeg yn ardal Merthyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2014