Ryanair i hedfan o Faes Awyr Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Ryanair wedi datgelu eu bwriad i ddefnyddio Maes Awyr Caerdydd unwaith eto.
Bydd y cwmni Gwyddelig yn teithio o'r brifddinas i Tenerife yn wythnosol.
Disgwylir i 15,000 o deithwyr ddefnyddio'r gwasanaeth bob blwyddyn. Yn ol Ryanair bydd yr awyrennau cyntaf yn hedfan i'r ynys ym mis Hydref.
Mae'r cyhoeddiad yn hwb i Lywodraeth Cymru, perchnogion newydd y maes awyr.
Cafodd y maes awyr ei brynuam £52 miliwn yn 2013 wrth i bryderon gynyddu am ddiffygion y busnes a'r methiant y perchnogion ar y pryd i ddenu cwmnïau awyr a theithwyr i Gaerdydd.
Roedd Ryanair yn un o sawl cwmni i atal eu defnydd o'r maes awyr wrth i Gaerdydd wynebu cystadleuaeth ffyrnig gan feysydd awyr eraill, yn enwedig Bryste.
Fe ddaeth gwasanaeth Ryanair o Gaerdydd i Ddulyn i ben yn 2006.
Dywedodd y Gweinidog Economi Edwina Hart ei bod yn obeithiol y gallai hyn arwain at ddefnydd ehangach o'r lleoliad gan Ryanair a chwmnïau eraill:
"Dyma un o nifer o wasanaethau newydd sydd y weithredol o Gaerdydd ers i Lywodraeth Cymru brynu'r maes awyr ac mae'n brawf fod y maes awyr yn ddeniadol iawn."
Fis diwethaf, cyhoeddodd y maes awyr bod nifer y teithwyr wedi cynyddu o 9% ers i'r llywodraeth gymryd drosodd y llynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran y maes awyr ei fod yn "grêt adio cwmni hedfan mawr arall fel Ryanair".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2013