TregaRoc i ddenu mwy o ymwelwyr?
- Cyhoeddwyd

Cafodd gŵyl gerddoriaeth Gymraeg newydd sbon yn cael ei chynnal yn Nhregaron, Ceredigion, ddydd Sadwrn.
Pump o ferched lleol oedd yn gyfrifol am drefnu TregaRoc, gyda'r bwriad o ddenu mwy o bobl i ymweld â'r dre', yn ogystal â chynnig digwyddiad Cymreig i bobl yr ardal.
Roedd saith o artistiaid yn perfformio mewn pum lleoliad yn Nhregaron, gyda sawl busnes yn cynnig gostyngiad i ddeiliaid tocyn hefyd.
"Daeth y syniad o sgwrs gawson ni fel grŵp o ferched nol diwedd haf y llynedd", meddai Ffion Medi, Ysgrifennydd Pwyllgor Tregaroc.
"Roedden ni'n awyddus i drefnu rhywbeth i ddod â Thregaron ynghyd, ac i ddod â rhywfaint o fywyd yn ôl i'r dre.
"Mae hi wedi bod yn llawer o waith i ni fel pwyllgor, ond rydyn ni'n hapus iawn bod cymaint o fusnesau'r dre wedi'n cefnogi ni. Gobeithio y bydd pawb sy'n dod i'r ŵyl yn mwynhau'r adloniant ac yn teimlo eu bod nhw'n dod i ymweld â thref sy'n ffynnu."
'Hwyliog'
Ymhlith yr artistiaid oedd yn perfformio yn TregaRoc oedd Gwibdaith Hen Fran, Meinir Gwilym, Swnami, Newshan a dau artist lleol - Ian Rowlands a Paul Dark. Roedd un o gyflwynwyr C2 BBC Radio Cymru, Ifan Jones Evans, yn DJ-io yn ystod y nos hefyd.
"Mae'n braf cael rhywbeth fel hyn yn Nhregaron", meddai Sion Tansley, rheolwr gwesty'r Talbot yn y dre', cyn yr ŵyl.
"Ni'n edrych ymlaen at gael Gwibdaith Hen Fran yn chwarae yma'n y bar, ac yn gobeithio y bydd yr ŵyl yn helpu i adfywio'r dre.
"Does dim llawer o bobl yn gwybod bod pethe'n dal i fynd ymlaen yma yn Nhregaron. Mi fydd hi'n neis cael digwyddiad hwyliog fel hwn i ddenu ymwelwyr yma."
Daeth y noson i ben mewn pabell gafodd ei chodi ar faes parcio Clwb Rygbi Tregaron.
Meddai Glenys Jones, rheolwraig y clwb: "Mae e wedi bod yn lot o waith cael popeth yn barod.
"Rydyn ni wedi gorfod trefnu bod 'na far yn y babell tu allan, a bod digon o staff gyda ni i weini pawb. Ond roedd angen rhywbeth fel hyn ar y dre i ddenu pobl yma. Mae e'n syniad gwych".
Mae'r pwyllgor wedi derbyn grant 'Cynnal y Cardi', drwy Gyngor Ceredigion er mwyn trefnu TregaRoc, ac os bydd yn llwyddiant maen nhw'n ystyried ei gwneud hi'n ŵyl flynyddol.