Achos Y Rhws: 'Gallai'r dyn fod wedi llewygu'
- Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed y gallai gyrrwr y car darodd i mewn i blant y tu allan i ysgol ym Mro Morgannwg fod wedi llewygu yn ystod pwl o besychu.
Cafodd pump o blant a thri oedolyn eu hanafu pan drodd car Robert Bell ar ei do a'u taro y tu allan i Ysgol Gynradd Y Rhws ym mis Mehefin y llynedd.
Clywodd yr achos bod Mr Bell wedi bod yn "dal y llyw yn dynn, gyda'i lygaid ar agor led y pen" pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Mae Mr Bell, 62 oed o Ffontygari yn honni nad yw'n cofio'r digwyddiad, ac yn gwadu cyhuddiad o yrru heb y gofal a sylw dyladwy.
'Enghraifft nodweddiadol'
Fore Iau clywodd Llys y Goron Caerdydd gan arbenigwr mewn pesychu.
Dywedodd yr Athro Alan Maurice fod Mr Bell yn enghraifft nodweddiadol o ddyn allai lewygu yn ystod pwl o besychu, gan ei fod yn ordrwm, yn arfer smygu a bod ganddo hanes o'r cyflwr yn ôl yn y 1990au.
Clywodd y llys mai cred y DVLA yw bod tua 25 o bobl yn marw mewn gwrthdrawiadau bob blwyddyn ar ôl iddyn nhw lewygu mewn pwl o besychu.
Dywedodd yr Athro Maurice ei bod yn bosib i rywun ymddangos yn effro ac yn gafael yn y llyw tra eu bod nhw'n anymwybodol.
Roedd bod yn anymwybodol, meddai, yn esbonio pam nad oedd Mr Bell yn gallu cofio'r digwyddiad.
Ond fe wnaeth yr Athro Maurice gyfaddef nad oedd unrhyw gŵyn i feddyg Mr Bell cyn neu ar ôl y gwrthdrawiad.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2014