Cyffuriau cyfreithlon: Disgyblu plant
- Cyhoeddwyd

Mae saith o ddisgyblion ysgol yn Sir Benfro wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty wedi iddyn nhw ymateb i gyffuriau cyfreithlon, yn ôl y cyngor.
Fe ddywedodd llefarydd y byddan nhw'n cael eu disgyblu yn dilyn y digwyddiad b'nawn Mercher.
Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon i Ysgol Gyfun Penfro ar ôl i grŵp o ddisgyblion ddechrau teimlo yn sâl toc wedi 2:00yh.
Cafodd yr ambiwlans a'r ambiwlans awyr eu galw a chafoddd saith o ddisgyblion eu cludo i Ysbyty Llwynhelyg.
Wedi iddyn nhw gael eu trin, fe gafodd y saith eu rhyddhau neithiwr, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn ôl yn yr ysgol heddiw, meddai'r cyngor.
Cafodd disgyblion eraill eu trin yn yr ysgol.
Ddydd Iau, mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymweld â'r ysgol i "gynnig cyngor a chymorth".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2014