Gemau: Dechrau traddodiad yn Nghymru yn 1958
- Cyhoeddwyd

Wrth i Gymru baratoi i groesawu Baton y Frenhines cyn Gemau'r Gymanwlad, mae cyfle i gofio rhôl bwysig Cymru yn y traddodiad sy'n rhan annatod o'r Gemau erbyn heddiw.
Bydd y Baton yn teithio drwy Gymru am saith diwrnod fel rhan o'r daith drwy 71 o wledydd a rhanbarthau cyn agoriad swyddogol Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow ym mis Gorffennaf.
Fel y Gemau Olympaidd - lle mae'r Ffagl Olympaidd a'r fflam yn cael ei gludo tuag at yr agoriad - mae'n hen draddodiad cyn dechrau Gemau'r Gymanwlad i'r Baton wneud y daith.
Ond faint o bobl sy'n sylweddoli bod y traddodiad yma wedi dechrau pan gafodd y Gemau eu cynnal yng Nghaerdydd yn 1958?
Enw'r gemau bryd hynny oedd Gemau'r Ymerodraeth, ac yn 1958 y sefydlwyd Baton y Frenhines fel modd o uno'r cenhedloedd cyn y digwyddiad mawr.
Y nod oedd i'r baton fod yn symbol o heddwch ymysg y gwledydd sy'n cystadlu yn y Gemau.
Y person cyntaf i gario'r Baton oedd yr athletwr enwog Roger Bannister - y dyn cyntaf i redeg milltir mewn llai na phedwar munud - o Balas Buckingham wrth i'r baton deithio i Barc yr Arfau yng Nghaerdydd.
Fe fydd y baton gwreiddiol hwnnw yn cael ei dynnu o storfa yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd cyn cael ei arddangos ochr yn ochr â'r un newydd wrth iddo lanio ym Maes Awyr Caerdydd ar Fai 24.
Un fu'n cario'r baton gwreiddiol oedd Norman Richards - athletwr 18 oed ar y pryd oedd yn gwneud y naid hir a'r naid driphlyg - ac a fydd hefyd yn cario'r baton modern eleni.
Mae Mr Richards yn cofio rhedeg gyda'r baton yn 1958 drwy bentref Tonyrefail, a'i bod yn ddiwrnod heulog braf yn y Rhondda.
"Roedd hi'n anrhydedd ac yn fraint, ac rwy'n cofio teimlo'n falch dros ben," meddai.
"Y Gemau yn 1958 oedd y digwyddiad chwaraeon mwyaf erioed i gael ei gynnal yng Nghymru, ac roedd miloedd o bobl ar hyd y strydoedd gyda'r plant wedi cael mynd o'r ysgol - roedd e'n dipyn o achlysur."
Er bod Mr Richards, sydd erbyn hyn yn 74 oed, wedi mwynhau ei ran yn hanes chwaraeon Cymru, roedd yn rhy ifanc i gystadlu yn y Gemau yn 1958, ond mae wrth ei fodd ei fod wedi cael ei ddewis i gario'r baton unwaith eto yn 2014 - y tro hwn yn Aberdâr.
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y diwrnod. Fe fydd yn dod ag atgofion melys iawn yn ôl i mi," ychwanegodd.
Dim ond 600 milltir oedd taith y baton yn 1958, gan fynd i bob sir yng Nghymru dros bedwar diwrnod.
Cafodd ei gludo i mewn i stadiwm Parc yr Arfau gan y gwibiwr a'r chwaraewr rygbi Ken Jones, er roedd hynny'n gyfrinach tan iddo ymddangos o flaen y dorf yng Nghaerdydd.
Trosglwyddwyd y baton ganddo i Ddug Caeredin, ac fe wnaeth y tywysog ddarllen neges y Frenhines yn y baton i'r dorf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2014