Angladd milwr fuodd farw mewn damwain hofrennydd
- Cyhoeddwyd

Bydd angladd un o'r milwyr gafodd eu lladd mewn damwain hofrennydd yn Afghanistan yn cael ei gynnal yn ddiweddarach.
Roedd yr Is-gorporal Oliver Thomas, 26, o Aberhonddu yn un o'r pump a gafodd eu lladd ar ôl i'w hofrennydd blymio i'r ddaear yn ne Afghanistan ar Ebrill 26.
Roedd yn filwr wrth gefn a hefyd yn ymchwilydd i'r Aelod Seneddol dros Frycheiniog a Maesyfed, Roger Williams. Dywedodd ei bennaeth milwrol ei fod yn filwr "brwdfrydig ac yn hynod o abl".
Roedd wedi cael caniatad i adael ei waith gyda'r AS am gyfnod er mwyn gwasanaethu yn Afghanistan.
Ar ôl ei farwolaeth rhoddodd Mr Williams deyrnged iddo: "Nid yn unig oedd hi'n fraint cydweithio gydag Olly am nifer o flynyddoedd, ond rwy'n ei hystyried hi'n fraint i fod wedi gallu ei alw'n ffrind.
"Roedden ni i gyd mor falch ohono pan ymunodd e â'r Fyddin Wrth Gefn...Mae gan deulu Olly gymaint i fod yn falch ohono yn eu mab..."
Rhoddodd David Cameron ac Aelodau Seneddol eraill deyrngedau yn Nhŷ'r Cyffredin.
Mae angladd breifat yn cael ei gynnal yn Henffordd ddydd Gwener gyda gwasanaeth diolchgarwch yn Kington brynhawn Sadwrn.
Mae disgwyl i angladd y capten Tom Clarke oedd yn 30 oed ac yn dod o'r Bont Faen gael ei gynnal ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd6 Mai 2014