Dyn wedi marw wedi damwain maes awyr
- Cyhoeddwyd

Mi ddigwyddodd y ddamwain nos Iau
Mae peilot 55 oed wedi marw yn dilyn damwain yn ymwneud ag awyren micro lite ym Maes Awyr Caernarfon.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 6:00 nos Iau wedi iddyn nhw dderbyn adroddiad fod yr awyren wedi bod mewn damwain ar y llain lanio.
Fe aethpwyd ag ef i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ond nid oedd modd achub ei fywyd.
Mae'r awdurdodau perthnasol wedi cael gwybod am y digwyddiad.