Achos Martyn Tucker: Cwestiynau ynglŷn â'r Sgowtiaid

  • Cyhoeddwyd
Martyn Tucker
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Martyn Tucker ei garcharu am 12 mlynedd

Mae Aelod Seneddol yn dweud bod angen ymchwiliad ar ôl i gymdeithas y Sgowtiaid beidio dweud wrth yr heddlu fod y cyn-arweinydd wedi cam-drin plant.

Yn ôl yr Mark Tami, AS Alun a Glannau Dyfrdwy, mi aeth 'na rhywbeth "mawr o'i le" pan na chafodd cyhuddiadau ynglŷn â Martyn Tucker eu pasio at yr heddlu.

Cafodd Mr Tucker o Gaer ei garcharu am 12 mlynedd am 26 o droseddau rhyw ddifrifol yn erbyn bechgyn yn y 1970au.

Mi glywodd y llys bod y Sgowtiaid yn gwybod am y cyhuddiadau.

"Dim ond oherwydd bod yr heddlu wedi canfod y cyhuddiadau y daethon nhw i'r fei. Wnaeth y Sgowtiaid ddim tynnu sylw'r heddlu at y peth," meddai Mark Tami.

Dim pasio gwybodaeth

"Dw i'n credu bod angen i Gymdeithas y Sgowtiaid edrych ar ei bogail ei hunain i ddechrau. Mae gyda nhw nawr ganllawiau a threfniadau llym iawn. Mae angen i ni wneud yn siwr fod 'na ddim achosion eraill."

Mi glywodd y llys bod y Sgowtiaid wedi cael gwybod am yr ymosodiadau yn y 1970au a'i bod nhw hyd yn oed wedi cymryd datganiadau gan nifer o'r bechgyn. Ond chafodd y rhain ddim eu rhoi i'r heddlu.

Wrth gael ei holi gan yr heddlu dywedodd Martyn Tucker:

"'Dw i wedi bod yn aros am hyn, yn enwedig ers i'r stwff am Jimmy Savile ddod i'r wyneb. Ro'n i yn gobeithio na fyddai hyn byth yn digwydd ond mi o'n i yn gwybod y byddai hyn yn digwydd un diwrnod.

"Mi ydw i yn difaru'r hyn wnes i adeg hynny. 'Dw i wedi byw gyda hyn. Nes i ddinistrio fy mywyd a bywydau pobl eraill."

'Adolygiad llawn'

Mewn datganiad, dywedodd y Gymdeithas Sgowtiaid eu bod yn falch bod Martyn Tucker wedi pledio yn euog i'r cyhuddiadau a'i fod yn cael ei gosbi am y troseddau.

"Diogelwch y bobl ifanc yn ein gofal yw ein blaenoriaeth. Yn dilyn yr achos llys bydd y Gymdeithas Sgowtiaid yn cynnal adolygiad llawn o'r achos yma o'r 1970au a dysgu pob gwers posib o'r broses.

"Fe wnaeth y Gymdeithas Sgowtiaid gyd-weithio yn llawn gyda'r heddlu yn yr achos yma cyn gynted y cafodd pryderon eu codi am ymddygiad Tucker ac fe wnaethon ni gynnig mynediad llawn i'n cofnodion."

Ychwanegodd y datganiad nad oedd Tucker wedi bod yn aelod o'r gymdeithas ers y 1970au.