Pysgotwr wedi brifo ar y môr
- Cyhoeddwyd
Mae pysgotwr yn parhau i dderbyn triniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd ar ôl cael anafiadau i'w ben.
Cafodd ei daro yn ei ben gan ran o offer winsio ei gwch ym Môr Iwerddon nos Iau.
Mi gysylltodd y criw oedd ar y cwch gyda gwylwyr y glannau toc wedi saith nos Iau i ofyn am help. Cafodd y gwylwyr, hofrennydd RAF y Fali a bad achub Caergybi eu hanfon.
Roedd y cwch ryw 15 milltir o Gaergybi pan ddigwyddodd y ddamwain ac fe gafodd y pysgotwr ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd yr Awyrlu Brenhinol.