Ymchwiliad yn parhau i ddamwain awyren Caernarfon
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwilwyr ar y safle ddydd Gwener
Mae enw'r dyn fu farw mewn damwain awyren ym Maes Awyr Caernarfon wedi cael ei gyhoeddi.
Roedd Ashley Hazelwood yn 61 ac yn dod o Fae Cinmel yn y Rhyl.
Mae ymchwiliad i'r digwyddiad ddydd Iau yn parhau.
Cafodd Mr Hazelwood ei gludo i'r ysbyty ar ôl i awyren fach blymio i'r ddaear ar y llain lanio am 18:00, a bu farw o'i anafiadau.
Ar eu gwefan dywed yr Uned Ymchwil Damweiniau Awyr fod tîm wedi ei anfon i ymchwilio.
Dywedodd llefarydd o barc carafanau cyfagos ei fod wedi gweld diffoddwyr tân, ambiwlans awyr a cheir yr heddlu ar y safle wedi'r ddamwain.
Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Digwyddodd y ddamwain yng Nghaernarfon nos Iau
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2014