Ian Jones yn trafod gostyngiad ffigyrau gwylio S4C

  • Cyhoeddwyd
Ian Jones
Disgrifiad o’r llun,
Er y lleihad mewn gwylwyr, dywedodd Ian Jones bod mwy yn dewis gwylio ar-lein

Mae prif weithredwr S4C, Ian Jones, wedi dweud bod gostyngiad drwy'r diwydiant mewn gwylwyr ar adegau prysur a lleihad yn ei gyllideb ar gyfer ymchwil y gynulleidfa wedi cyfrannu at leihad yn nifer gwylwyr y sianel, gyda mwy yn dewis gwylio ar-lein.

Roedd Mr Jones yn siarad yn nigwyddiad y Gymdeithas Deledu Brenhinol (RTS) Cymru yng Nghaerdydd ddydd Iau, gyda chyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, a phennaeth ITV Cymru, Phil Henfrey.

Dywedodd Mr Jones y byddai'n cyhoeddi cynnydd yn nifer y defnyddwyr o wasanaeth ar-lein S4C, Clic, wrth i fwy o bobl wylio rhaglenni ar y we.

Yr wythnos ddiwethaf daeth i'r amlwg fod gan Mr Talfan Davies bryderon am y lleihad yn y nifer sy'n gwylio S4C. Mae'r sianel yn comisiynu nifer o'i rhaglenni mwyaf poblogiadd gan BBC Cymru ac yn derbyn rhan helaeth o'i chyllid drwy ffi drwydded y BBC.

'Gostyngiad sylweddol'

Ddydd Iau, dywedodd Mr Jones bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn niferoedd y gwylwyr ar adegau prysur ar draws y diwydiant teledu.

"Yn chwarter cyntaf eleni mae pob darlledwr ym Mhrydain wedi dioddef gostyngiad o tua 7% yn eu cynulleidfa oriau brig nhw.

"Yn achos S4C, oherwydd y cynilo ariannol a'r gostyngiad o ryw 36% yn ein cyllideb ni, ry'n ni wedi gorfod gwneud toriadau. Ac un o'r toriadau hynny yw lleihad yn yr arian ry'n ni'n talu i Barb sy'n mesur y gynulleidfa."

Dywedodd Mr Jones bod y lleihad mewn ymchwil y gynulleidfa wedi dechrau tua dwy flynedd yn ôl, a'i fod yn golygu bod llai o gartrefi yn cael eu defnyddio fel rhan o sampl Barb (Broadcasters' Audience Research Board).

Dywedodd bod Barb wedi rhybuddio y byddai hynny'n arwain at leihad o o leiaf 6% yn eu ffigyrau oriau brig.

Ychwanegodd y byddai cynnydd sylweddol yn nifer defnyddwyr gwasanaeth ar-lein S4C, Clic, yn cael ei gyhoeddi yn adroddiad blynyddol y sianel ymhen rhai wythnosau.

Newid agwedd

Dywedodd Rhodri Talfan Davies y byddai'r symudiad tuag at wylio ar-lein wedi digwydd yn gyflymach nac y mae sawl person wedi ei ddisgwyl.

"Darlledu sy'n dal i fod y prif blatfform, ac mae llawer o 'bobl ymchwil' yn dweud y bydd sianeli darlledu yn parhau yn amlwg, a bod y newid yn un graddol iawn.

"Dydw i ddim yn credu hynny. 'Dw i'n meddwl ein bod ni yn mynd drwy gyfnod ar hyn o bryd lle mae newid agwedd y genhedlaeth ifanc, yn nhermau sut y mae pobl yn defnyddio'r dechnoleg, yn fwy dramatig nac erioed.

"Rydyn ni wedi bod yn siarad am y chwyldro digidol am 10 neu 15 mlynedd - yr hyn oedden ni'n olygu oedd bod mwy o sianeli teledu. Ond rydych chi'n gweld pobl iau yn defnyddio'r cyfryngau nawr, ac maen nhw'n ei ddefnyddio mewn ffordd wahanol iawn."

Cafodd y newid ei adlewyrchu gan bennaeth newyddion a rhaglenni ITV Cymru, Phil Henfrey.

"Roedd pobl yn arfer mynd i'r dafarn a dweud, 'Weles ti hwn ar y newyddion?'

"Nawr maen nhw'n ei weld o a'i rannu gyda ffrindiau drwy gyfryngau cymdeithasol, neu mae pobl yn dod o hyd i stori drwy eu rhwydwaith cymdeithasol," meddai.