Dyn yn marw wedi tân yn Llanelli
- Published
Mae dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Heol Dinbych, Llanelli brynhawn Iau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 4:45yh a phan gyrhaeddon nhw daeth cadarnhad bod dyn y tu mewn i'r eiddo.
Dyw'r corff heb gael ei adnabod eto ac mae Heddlu Dyfed Powys yn gwneud ymchwiliadau i geisio darganfod ei berthynas agosaf.
Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn ceisio darganfod achos y tân.