Codi tai ym Mhenrhyndeudraeth: beirniadu'r YMCA
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorydd wedi beirniadu YMCA Cymru wedi iddyn nhw gael caniatâd cynllunio i godi pedwar tŷ ym mhentref Penrhyndeudraeth.
Yn ôl Gareth Thomas, roedd y tir wedi cael ei roi i'r gymuned leol gan dirfeddiannwr yn 1918.
Mae wedi honni bod y mudiad wedi "dwyn adnodd hamdden gwerthfawr oddi wrth bobl ifanc Penrhyndeudraeth".
Dywedodd YMCA Cymru eu bod yn barod i weithio gyda - a buddsoddi yn - y gymuned leol.
Angen tai lleol
Fe gafodd caniatâd cynllunio ei roi er mwyn adeiladu pedwar o dai ar Ebrill 28, tai gyda dau lawr a thair ystafell wely.
Mae adroddiad cynllunio swyddogion Cyngor Gwynedd yn cydnabod bod gwrthwynebiad yn lleol oherwydd bod pobl yn anhapus fod adeilad hamdden yn cael ei golli i'r gymuned.
Cafodd y mater ei drafod yn y pwyllgor cynllunio ac fe benderfynodd cynghorwyr roi sêl bendith i'r cais gan fod angen tai yn lleol ac oherwydd bod yr adeilad wedi bod yn wag ers cyfnod hir ac nad oedd yn debygol iddo gael ei ddefnyddio fel clwb snwcer eto.
Mae Mr Thomas o Blaid Cymru wedi honni bod y tir dan sylw wedi cael ei roi'n rhodd i'r gymuned leol gan deulu'r tirfeddiannwr Syr Osmond Williams.
'Dwyn adnodd hamdden'
Dywedodd: "Mae'n anodd credu sut mae elusen, sy'n annog pobl ifanc i fentro a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, yn gallu dwyn adnodd hamdden gwerthfawr oddi wrth bobl ifanc Penrhyndeudraeth.
"Mae egwyddor yn y fantol yma - rhoddwyd y tir i bobl Penrhyndeudraeth fel safle ar gyfer gweithgareddau hamdden i bawb ei fwynhau.
"Ni ddylai'r tir fod yn safle ar gyfer adeiladu tai er mwyn eu gwerthu ar y farchnad agored fel bod modd i'r YMCA elwa arno."
Honnodd fod nifer o asiantaethau lleol wedi ceisio trefnu cyfarfod gyda chynrychiolydd yr YMCA ers 2000 ond yn ofer.
Mae BBC Cymru wedi cysylltu gyda YMCA Cymru i gael eu hymateb.
'Hapus i gwrdd'
Fe ddywedodd eu cadeirydd Peter Landers y byddai "unrhyw incwm fyddai'n deillio o werthiant posibl y safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc.
"Os oes prosiect addas yn cael ei ganfod ym Mhenrhyndeudraeth bydd YMA Cymru yn hapus i weithio gyda'r gymuned leol ac i fuddsoddi yn y gymuned.
"O ran yr egwyddor o fuddsoddi yn y gymdeithas leol, mi fyddwn yn hapus i gwrdd â'r cynghorydd os oes amser a lle addas yn cael eu trefnu.
"Pwrpas yr YMCA yw darparu cyfleon ar gyfer pobl ifanc ac fe fyddwn wrth ein boddau yn darganfod cyfleon lleol i helpu pobl ifanc o'r ardal."