'Dim bwriad i gau Swyddfa Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Ed Miliband
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Ed Miliband syn siarad gyda'r gweithwyr yn ffatri Airbus ym Mrychdyn

Mae Ed Miliband wedi dweud nad oes bwriad ganddo i gael gwared ar Swyddfa Cymru pe bai ei blaid ennill yr etholiad cyffredinol yn 2015.

Roedd y New Statesman yn honni fod pobl bwerus o fewn y Blaid Lafur eisiau cau swyddfeydd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yr awgrym yn yr adroddiad oedd y byddai'r swyddfeydd yn cael eu huno i greu un swyddfa bwrpasol ar gyfer y tair gwlad ddatganoledig.

Ond dywedodd arweinydd y blaid: "Rwy'n meddwl fod Swyddfa Cymru yn gwneud gwaith pwysig, mae ein llefarydd ar Gymru Owen Smith yn gwneud gwaith gwych, a does gen i ddim cynlluniau i wneud hynny".