Ffordd gysylltu newydd i Abertawe
- Cyhoeddwyd

Bydd y gwaith o adeiladu ffordd newydd £4.5miliwn i gysylltu canol dinas Abertawe gyda Stadiwm y Liberty yn dechrau yn yr haf.
Bydd ffordd Morfa, sydd wedi derbyn £1.5miliwn o gronfa trafnidiaeth leol Llywodraeth Cymru, yn rhedeg yn gyfochrog â'r Afon Tawe.
Y gobaith yw yw y bydd y ffordd newydd hefyd yn lleddfu'r tagfeydd i Heol Castell-nedd yn yr Hafod, rhwng y Liberty a Stryd Dyfatty.
Mae'r problemau ar eu gwaethaf ar adegau prysur gan gynnwys pan fydd Abertawe yn chwarae gartref yn yr uwchgynghrair.
Nod arall y cynllun yw denu busnesau i sefydlu yn yr ardal.
Rhwydwaith beicio
Tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo bydd yna system i rybuddio modurwyr y ddinas i osgoi Heol Castell-nedd.
Ond nid yw system ar waith eto.
Dywedodd June Burtonshaw aelod o gabinet Cyngor Abertawe: "Bydd y ffordd yn rhoi mynediad uniongyrchol i nifer o safleoedd datblygu ar hyd glannau Afon Tawe ac mae'n hanfodol er mwyn denu buddsoddiad yn yr ardal."
Mae'r cyngor hefyd wedi derbyn £300,000 wella rhwydwaith beicio o gwmpas canol y ddinas.