Pennaeth newydd i'r gwasanaeth iechyd

  • Cyhoeddwyd
Dr Andrew GoodallFfynhonnell y llun, Welsh government
Disgrifiad o’r llun,
Mae Dr Andrew Goodall wedi gweithio yn y gwasanaeth iechyd ers 23 mlynedd

Dr Andrew Goodall fydd pennaeth newydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae e wedi gweithio yn y gwasanaeth iechyd ers 23 mlynedd, ac mae'n gyn brif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Bydd yn dechrau ar ei waith fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG (NHS) Cymru ym mis Mehefin.

Mae'n olynu David Sissling a adawodd ei swydd ym mis Mawrth ar ôl cael ei benodi'n brif weithredwr Ymddiriedolaeth Sylfaen Ysbyty Cyffredinol Kettering.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Dr Goodall wedi ei benodi i'r swydd ar secondiad, a'i fod yn parhau ar delerau ac amodau'r gwasanaeth iechyd. Mae ei gyflog yn yr ystod £190,000-£199,000, sy'n llai na chyflog ei ragflaenydd.