Ynni o'r haul : Dyfodol llai disglair?
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwil BBC Cymru wedi datgelu bod 20 o ffermydd solar mawr wedi ymddangos yng Nghymru ers 2011.
Mae 25 o ffermydd eraill wedi cael caniatâd cynllunio ac mae 13 cynllun arall yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.
Mae'r gwaith ymchwil ar ran rhaglen radio Eye On Wales yn dangos fod maint, yn ogystal â nifer, y ffermydd solar wedi ehangu. Mae'r 21 fferm solar sydd yn cynhyrchu trydan ar hyn o bryd yn gorchuddio 190 acer o dir.
Bydd y 25 safle nesaf i gael eu hadeiladu yn fwy na 1,000 o aceri. Fe allai hyn ddyblu os caiff nifer o gynlluniau newydd ganiatâd cynllunio.
Mae un o'r mwyaf o'r rhain yn y gogledd-ddwyrain. Bydd Parc Solar Glannau Dyfrdwy yn 220 acer - yr un maint a 125 cae pêl-droed. Bydd 180,000 o baneli solar yn cael eu gosod ar gae sydd, ar hyn o bryd, yn tyfu llysiau. Mae'r datblygwyr yn gobeithio gwella'r amgylchedd trwy ddenu adar, gwenyn a blodau gwyllt i'r safle.
Mae arolygon barn yn awgrymu bod 85% o bobl yn cefnogi'r egwyddor o ynni solar.
Ond yn lleol mae yna wrthwynebiad i'r cynllun - yn eu plith dau gyngor cymuned. Disgwylir i Gyngor Sir Y Fflint ystyried y mater yn Mis Mehefin.
Dyfodol Ansicr
Fe allai llai o ffermydd ynni mawr gael eu hadeiladu yn y dyfodol. Mae llywodraeth San Steffan yn lleihau'r cymhorthdal fydd ar gael i ffermydd solar mawr.
Mae hyn yn siomi cefnogwyr y diwydiant, sy'n hawlio bod cynhyrchu trydan trwy baneli solar yn gymharol rhad o gymharu â dulliau eraill o gynhyrchu ynni adnewyddol.
Yn ol Leoni Green o'r Gymdeithas Fasnach Solar: "Mae'n debyg y gwelwn ni bobl yn trio eu gorau i wneud cynlluniau bach weithio ac fe fyddwn ni'n gweld pobl yn datblygu ffermydd solar sy'n llai na 5 megawatt. Ond mae unrhyw ddatblygiadau mwy na hynny yn dibynnu ar gymorthdaliadau'r llywodraeth yn y dyfodol - ac mae hynny yn ansicr."
Bydd rhaglen "Eye On Wales" yn cael ei darlledu ar BBC Radio Wales am 13.30 ar ddydd Sul Mai 18.
13:30 Dydd Sul Mai 18fed