Bachgen yn disgyn o fws ar draffordd

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 13 oed yn cael triniaeth mewn ysbyty ar ôl iddo ddisgyn o fws ar ffordd ger Bryste.

DAMWAIN 49

Roedd y bachgen yn teithio gyda chlwb rygbi Tondu, Pen-y-bont, pan ddigwyddodd y ddamwain ar gyffordd yr M49.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans fod gan y bachgen "anaf mawr" i'w ben ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Plant Bryste.

Fe ddisgynnodd y bachgen allan o'r allanfa argyfwng pan roedd y bws yn teithio ar gyffordd Avonmouth yr M49 ger yr M4.

Yn ôl llygad dyst fe ddaeth car o fewn "modfeddi" i'r bachgen ar ôl iddo ddisgyn.

Roedd tagfeydd traffig difrifol yn yr ardal ar ôl y digwyddiad.

Dywedodd perchennog y bws Keith Jones " Rydw i'n gofidio'n fawr - 'dwi ddim yn gwybod beth i'w ddweud."