T20: Buddugoliaeth i Forgannwg yn Hampshire

  • Cyhoeddwyd
MorgannwgFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Morgannwg wedi trechu Hampshire o 10 rhediad gan sicrhau dechrau gwych i'r tymor 20 pelawd.

Morgannwg 161 am 7 (20 pelawd)

Hampshire 151 am 6 (20 pelawd)

Y bowlwyr Wil Owen a Jim Allenby oedd arwyr Morgannwg.

Fe gymerodd Owen 3 wiced wrth i Hampshire gael eu rhwystro rhag cyrraedd targed cystadleuol Morgannwg.

Jaques Rudolph (34) a Mark Wallace (33) oedd prif sgorwyr y Dreigiau.