Gwasanaeth coffa ar gyfer y milwr Oliver Thomas

  • Cyhoeddwyd
L/Cpl Oliver Thomas and Capt Thomas Clarke
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yr Is-gorporla Oliver Thomas a'r Capten Thomas Clarke yn teithio mewn hofrennydd Lynx

Mae gwasanaeth coffa wedi cael ei gynnal ddydd Sadwrn er cof am filwr o Gymru gafodd ei ladd mewn damwain hofrennydd yn Afghanistan .

Roedd yr Is-gorporal Oliver Thomas, 26, o Aberhonddu yn un o'r pump a gafodd eu lladd ar ôl i'w hofrennydd blymio i'r ddaear nhalaith Kandahar ar Ebrill 26.

Roedd yn filwr wrth gefn gyda'r adain cudd-wybodaeth a hefyd yn gyn ymchwilydd i'r Aelod Seneddol Democratiaid Rhyddfrydol Roger Williams.

Cafodd y gwasanaeth diolchgarwch ei gynnal ym Kington sir Henffordd, am 13:00.

Cafodd angladd preifat yr is-gorporal ei gynnal yn Henffordd ddydd Gwener.

Fe wnaeth yr Mr Williams, aelod seneddol Brycheiniog a Maesyfed, roi teyrnged i'r copral yn dilyn ei farwolaeth.

"Nid yn unig oedd hi'n fraint cydweithio gydag Olly am nifer o flynyddoedd, ond rwy'n ei hystyried hi'n fraint i fod wedi gallu ei alw'n ffrind.

"Roedden ni i gyd mor falch ohono pan ymunodd e â'r Fyddin Wrth Gefn...Mae gan deulu Olly gymaint i fod yn falch ohono yn eu mab..."

Mae ymchwiliad yn parhau i gael ei gynnal i beth achosodd y ddamwain.

Y milwyr eraill a fu farw oedd y Capten Thomas Clarke, y Swyddog Gwarantedig Spencer Faulkner a'r Corporal James Walters yn gwasanaethu gyda Chorfflu Awyr y Fyddin; a'r awyr lefftenant Rakesh Chauhan oedd yn aelod o'r Awyrlu Brenhinol.

Fe fydd angladd y Capten Clarke yn cael ei gynnal yn y Bontfaen ddydd Llun.