Coleg Brenhinol y Nyrsys yn honni fod yna brinder nyrsus
- Cyhoeddwyd

Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys (CBN) yn honni fod yna brinder nyrsys wedi eu cymhwyso yng Nghymru, ac fe allai hyn effeithio ar ofal cleifion.
Daw honiadau'r Coleg yn yr wythnos yn dilyn adroddiad oedd yn feirniadol o ddau ysbyty yn ardal bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg a'r gofal a gafodd ei roi i ddynes 82 oed.
Ond dywed Jean White, prif swyddog nyrsio Cymru, fod yna ddigon o nyrsys yn cael eu hyfforddi.
Dywed CBN fod Llywodraeth Cymru wedi methu a sicrhau fod yna ddigon o lefydd hyfforddi ar gyfer nyrsys a bod hyn yn ei dro yn golygu prinder staff.
Yn ôl cyfarwyddwr CBN Tina Donnelly mae yna bwysau ar wasanaethau rheng flaen oherwydd diffyg cyllid a phrinder staff.
Dywedodd wrth raglen Sunday Politics Wales nad oedd yna unrhyw esgus am ofal gwael fel y rhai gafodd sylw yn adroddiad am y methiannau mewn gofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Castell
Roedd yr adroddiad - Ymddiried mewn gofal - yn sôn am y diffyg gofal a gafodd ei roi i Lilian Williams 82 oed o Borthcawl.
Dywedodd Ms Donnelly y gallai pwysau ar lefelau staffio gyfrannu tuag at achosion o ofal gwael.
"Pob wythnos nawr rydym yn clywed am achosion o ofal nyrsio gwael yng Nghymru, ac mae'n rhaid i ni sicrhau fod y gofal yn gywir a hynny er mwyn y claf ac er mwyn y proffesiwn," meddai.
"Gallwch chi ddim parahu i ofyn am y gwasanaeth gorau o ran y Gwasanaeth Iechyd pe na bai ganddo chi yr adnoddau i sicrhau hynny. "
Fe wnaeth CBN sôn am enghreifftiau o un bwrdd iechyd yng Nghymru yn ceisio recriwtio nyrsys o dramor.
Yn ôl y Coleg roedd hyn yn dystiolaeth fod yna brinder nyrsys wedi eu cymhwyso o fewn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Fe wnaeth Jean White prif swyddog nyrsio Cymru gadarnhau fod un bwrdd yn ceisio recriwtio o dramor, ond dywedodd nad oedd hynny yn anarferol.
Fe wnaeth hi hefyd wadu honiadau fod yna brinder nyrsys.
"Rwy'n teimlo bod delwedd nyrsio wedi cael ei effeithio i raddau oherwydd y straeon rydym wedi bod yn clywed. Mae'r gwirionedd yn llawer gwahanol i hynny, " meddai.
"Mae gennym ragoriaeth mewn gofal nyrsio nid yn unig yng Nghymru ond mewn rhannau eraill o'r DU hefyd."
Mae rhaglen Sunday Politics ar BBC1 am 11:00yb ddydd Sul..
Straeon perthnasol
- 23 Mawrth 2014
- 14 Mai 2014
- 14 Mai 2014
- 13 Mai 2014