Southall i ddangos cariad at iaith
- Cyhoeddwyd

Bydd y cyn golgeidwad rhyngwladol Nevill Southhall ymhlith yr wyth seleb sydd wedi eu dewis i gymryd rhan yng Nghyfres newydd Cariad@Iaith:Love4Language ar S4C.
Wynebau cyfarwydd arall fydd y canwr John Owen Jones o Borth Tywyn, y ddynes tywydd Behnaz Akghar, ac Ian 'H' Watkins o'r grŵp Steps, un o grwpiau mwyaf poblogaidd y 90au.
Fe fydd yna dair actores sef Jenna Jonathan o Donyrefail, oedd yn un o gast rhaglen deledu realiti MTV The Valleys, Siân Reeves o Lanelli sef aelod o gast gwreiddiol Les Misérables ym 1985 a Suzanne Packer, sy'n enwog fel y cymeriad Tess Bateman o'r gyfres Casualty ac sydd hefyd yn chwaer i'r cyn athletwr Colin Jackon.
Yr olaf o'r wyth sy'n cystadlu yw Sam Evans, Yn 2013 Sam Evans o Lanelli oedd y Cymro cyntaf erioed i ennill y gyfres deledu realiti Big Brother yn 2013.
Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys S4C fod yr wyth yn dod o bob math o gefndiroedd gwahanol ac yn enwog mewn meysydd gwahanol iawn i'w gilydd.
"Bydd camerau S4C yn eu dilyn bob cam o'r ffordd ac yn sicr bydd y deunydd yn gwneud teledu gwych! Pob lwc i bob un ohonynt."
Bydd yr wyth yn aros yng Nghanolfan Breswyl Cymraeg i Oedolion, Nant Gwrtheyrn yn Llithfaen ger Pwllheli am wythnos er mwyn mynychu gwersi Cymraeg dwys gyda'r tiwtoriaid Nia Parry ac Ioan Talfryn bob dydd, a chymryd rhan mewn gweithgareddau lu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd rhaglen yn cyflwyno'r sêr ar S4C nos Sadwrn 14 Mehefin am 20:00, tra bydd Nia Parry a Matt Johnson yn dod â holl hynt a helynt y sêr ar Cariad@Iaith:Love4Language bob noson rhwng nos Lun 16 Mehefin a nos Wener 20 Mehefin am 20:30 a 21:25.
Bydd y ffeinal yn cael ei ddarlledu ar nos Sadwrn 21 Mehefin am 20:00.