BBC Cymru Fyw

Diffoddwyr yn ymchwilio i dân ar fferm yn Sir Fynwy

Published
image captionCafodd adeiladau ar y ffer eu difrodi gan y tân fore Sadwrn
Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i dân ddifrodi nifer o adeiladau ar fferm yn sir Fynwy.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i'r fferm ym Mhenallt ger Mynwy fore Sadwrn.
Bu criwiau o Fynwy, Cas-gwent a Chwmbrân ar y safle a hefyd cerbyd cludo dŵr o Rhosan-ar-Wy sy'n rhan o Wasanaeth Tan ac Achub Sir Henffordd a Chaerwrangon.
Cafodd ysgubor ei losg yn ulw.
Dywedodd Andy Davidson o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Mae yna ymchwiliad i achos y tân, ond nid ydym yn trin y digwyddiad fel un amheus. "