Pum mlynedd o garchar i athro
- Cyhoeddwyd

Mae dirprwy brifathro 47 oed o Gaerdydd, wnaeth gyfadde' ffilmio plant yn gudd, yn ogystal â bod â miloedd o luniau anweddus yn ei feddiant, wedi cael ei garcharu am bum mlynedd.
Ym mis Ebrill plediodd Gareth Williams yn euog i 31 cyhuddiad - gan gynnwys naw cyhuddiad o voyeuriaeth, 20 cyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant, a dau o feddu ar luniau anweddus o blant.
Roedd y troseddau wedi eu cyflawni rhwng 2006 a mis Ionawr eleni pan gafodd ei arestio.
Roedd rhai o'r troseddau wedi digwydd yn Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd, ble'r oedd Williams yn ddirprwy brifathro.
Clywodd y llys fod lluniau wedi eu tynnu o 31 o blant. Roedd y plant rhwng 11 a 16 oed.
Cafodd ei wahardd o'i swydd ar ôl cael ei arestio ym mis Ionawr.
Daeth i'r amlwg ei fod hefyd wedi gosod camera bychan mewn tŷ er mwyn gwylio plant yn mynd i'r toiled.
Clywodd y llys fod ganddo 16,237 o luniau anweddus o blant yn ei feddiant a thros 600 ffeil gyda delweddau o natur voyueraidd.
Ym mis Ionawr roedd eisoes wedi pledio'n euog i dri chyhuddiad arall o voyueriaeth.
Roedd y Barnwr Mr Ustus R T Rowlands wedi rhybuddio y gallai ddisgwyl cyfnod "sylweddol" dan glo.
'Cydweithio agos'
Wedi'r dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, dywedodd Catrin Davies, o Wasanaeth Erlyn y Goron, fod Williams wedi gweithredu er mwyn ei foddhad ei hun, heb unrhyw ystyriaeth o les neu ddiniweidrwydd y bobl ifanc dan sylw.
"Fel dirprwy brifathro, fyddai ganddo ddim amheuaeth ynghylch â'r ffaith fod yr hyn yr oedd yn ei wneud yn anghywir," ychwanegodd.
"Roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cydweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru o'r cychwyn cynta' i sicrhau erlyniad llwyddiannus. Cafodd llawer iawn o dystiolaeth ei adolygu, a diolch i'r holl waith caled hynny, doedd gan Gareth Williams ddim dewis ond pledio'n euog pan gyflwynwyd y dystiolaeth iddo.
"Mae'n amhosib dirnad effaith emosiynol gweithredoedd Williams ar y bobl ifanc dan sylw. Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn rhywfaint o gysur i'r rhai sydd wedi diodde'."
'Achos anodd'
Yn ôl y Ditectif Prif Arolygydd Tony Brown, o Heddlu De Cymru:
"Trwy gydol yr achos anodd hwn, yn ogystal â chefnogi ei gilydd, mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, yr awdurdod lleol, y teuluoedd dan sylw a'r gymuned Gymraeg ehangach wedi cefnogi ein hymchwiliad ni hefyd, ac rydym yn ddiolchgar iawn am hynny.
"Ni allai unrhyw un fod wedi rhagweld y byddai'r math yma o droseddu'n digwydd.
"Ers i Williams gael ei arestio ar 23 Ionawr 2014, rydym wedi adnabod, dod o hyd i, a siarad â 92 o bobl ifanc neu eu rhieni. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gydweithrediad llawn yr ysgol, y cyngor, a theulu Gareth Williams hefyd. Roedd eu cymorth wedi ein galluogi i adnabod dioddefwyr yn gyflym a chynnig gwasanaethau cymorth priodol iddynt.
"Gobeithiwn nawr y bydd penderfyniad y llys yn caniatáu i'r holl deuluoedd dan sylw, a'r ysgol, ddod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd a dechrau rhoi'r digwyddiad ofnadwy hwn y tu ôl iddynt."
'Siom'
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd llefarydd ar ran Ysgol Gyfun Glantaf a Chyngor Caerdydd fod "y gymuned ysgol wedi ei siomi a'i syfrdanu gan yr hyn a gafodd ei ddatgelu yn y llys".
"Cyn i Mr Gareth Williams gael ei arestio, doedd yna ddim arwydd ei fod wedi gwneud unrhyw beth o'i le," ychwanegodd.
"Yn syth wedi i Mr Williams gael ei arestio, cafodd yr ysgol ei harchwilio'n fanwl gan arbenigwyr yr heddlu. Roedden nhw'n fodlon nad oedd unrhyw ddyfeisiau cudd neu anghyfreithlon ar y safle.
"Tra bod y cyhuddiadau yn erbyn Mr Williams, yn ymwneud â ffilmio cudd ar y safle gan un unigolyn dros ddeuddydd, mae'r teimlad o frad a siom ymhlith y disgyblion, y staff a chymuned yr ysgol yn ehangach yn ddwfn.
"Mae wedi bod amser anodd tu hwnt i bawb sy'n gysylltiedig. Hoffai'r prifathro fynegi ei werthfawrogiad o'r gefnogaeth gan rieni pan nad oedd llawer o wybodaeth ar gael. Cyfeiriodd at ei falchder yn y modd yr oedd disgyblion, rhieni ac athrawon wedi ymateb i'r datblygiadau syfrdanol hyn."
Dywedodd gwraig Gareth Williams, Georgina :
"Rwy'n teimlo'n sâl ynglŷn â'r hyn mae e wedi ei wneud. Fe ges i sioc enfawr, ac fe chwalwyd fy mywyd."