Bangor 2-0 Y Rhyl
- Cyhoeddwyd

Bangor fydd yn cystadlu yng Nghwpan Europa y tymor nesa ar ôl curo'r Rhyl yn rownd derfynol gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Bêl-droed Cymru yn Nantporth.
Mae'r fuddugoliaeth o 2-0 yn golygu y bydd Bangor yn cael o leiaf 110,000 Ewro am gystalu yng nghynghrair Europa.
Les Davies (63') sgoriodd gol gyntaf Bangor a hynny ar ôl i Peter Dogan gael ei anfon o'r maes ar ôl derbyn ail gerdyn melyn.
Daeth ail gol Bangor o'r smotyn ar ôl i Matty Woodard lawio'r bêl.
Chris Jones (74') lwyddodd gyda'r gic.
Aeth y Rhyl lawr i naw dyn yn yr amser sy'n cael ei ganiatáu am anafiadau, ar ôl i Tom Donegan gael ei anfon o'r maes am dacl dwy droed ar Davies.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Bangor yn ôl yn Ewrop, hwn fydd y 15fed gwaith iddynt gystadlu ar y cyfandir.
Bangor: Jack Cudworth, Declan Walker, Chris Roberts, Michael Johnston, Anthony Miley, Chris Jones (Corey Jones 90'+2), Ryan Edwards, Robert Jones (Jamie McDaid 67'), Les Davies, Damian Allen, Sion Edwards (James Colbeck 88')
Eilyddion heb eu defnyddio: Nick Bould (golgeidwad), Joe Culshaw, Iolo Hughes, Caio Hywel
Rhyl: Alex Ramsay, Matty Woodward, Liam Benson (Tom Donegan 76'), Ryan Astles, Chris Rimmer, Paul McManus, Mark Cadwallader, Peter Dogan, Carlos Roca (Danny Hughes 54'), David Forbes, Steve Lewis
Eilyddion heb eu defnyddio: Tom Roberts, Josh Williams, Danny Laverty, Sean Dowling, Michael Askew (golgeidwad)
Cardiau coch: Dogan 51' Donegan 90'
Cardiau melyn: Dogan 9' & 51', Lewis 38', Forbes 60', Ramsay 73', Cadwallader 73', McManus 75'
Torf: 1,442
Dyfarnwr: Mark Whitby