Cannoedd yn angladd milwr o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Capt Thomas Clarke
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Capten Clarke ei ddisgrifio fel hedfanwr eithriadol ac arweinydd penigamp

Daeth cannoedd o bobl i strydoedd y Bontfaen ar gyfer angladd milwr o Gymru fu farw mewn damwain hofrennydd Lynx yn Afghanistan.

Roedd y capten Thomas Clarke, 30, o'r Bontfaen, Bro Morgannwg yn un o bump gafodd eu lladd ar ôl i'w hofrennydd blymio i'r ddaear yn nhalaith Kandahar ar Ebrill 26.

Cyn y gwasanaeth yn Eglwys y Groes Sanctaidd fe roddodd y Brigadydd Neil Sexton - a fu'n gwasanaethu gyda Capten Clarke yn Afghanistan - deyrnged iddo gan ddweud:

"Rydym yma i ffarwelio gydag aelod talentog ac uchel ei barch o'r fyddin, ac mae'n dysteb i'r parch yna fod cymaint o ffrindiau a chydweithwyr ledled Prydain wedi dod yma.

"Rydym hefyd yma wrth gwrs i gefnogi ei deulu a'i ffrindiau, a'i wraig Angie yn enwedig ynghyd â'i rieni a'i rieni-yng-nghyfraith."

Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd seremoni ei chynnal ar y stryd yn y Bontffaen ar y ffordd i'r eglwys
Disgrifiad o’r llun,
Daeth cannoedd o bobl i strydoedd y Bontfaen

Fe wnaeth y fyddin ddisgrifio Capten Clarke fel arweinydd dewr.

Fe wnaeth busnesau'r Bontfaen gau am chwarter awr am 12:45 fel arwydd o barch i Capten Clarke.

Ar ôl ei farwolaeth dywedodd ei deulu: "Fe wnaeth Tom ddod a llawenydd a chariad i bawb oedd yn ei adnabod, gyda'i lygaid disglair glas a'i wên ddireidus.

"Roedd ganddo awch am fywyd, rydym i gyd heddiw yn fwy tlawd hebddo."

Cafodd angladd yr Is-gorporal Oliver Thomas, 26, o Aberhonddu ei gynnal yr wythnos diwethaf.

Y tri arall gafodd eu lladd yn y ddamwain oedd y Swyddog Gwarantedig Spencer Faulkner, y Corporal James Walters oedd yn gwasanaethu gyda Chorfflu Awyr y Fyddin a'r awyr a lefftenant Rakesh Chauhan oedd yn aelod o'r Awyrlu Brenhinol.

Mae ymchwiliad yn parhau i gael ei gynnal i beth achosodd y ddamwain.