Dyn wedi marw mewn chwarel

  • Cyhoeddwyd

Mae timau achub wedi dod o hyd i gorff dyn mewn hen bwll chwarel yn Ninbych.

Roedd nofwyr tanddwr wedi bod yn chwilio amdano ers 4pm dydd Sadwrn ar ôl iddo fethu a dod i'r wyneb.

Bu hofrennydd yr heddlu yn cynorthwyo yn y chwilio.

Dyw enw'r dyn 20 oed, oedd yn byw yn lleol, heb gael ei gyhoeddi eto ond mae ei deulu wedi cael gwybod.

Dywedodd y ditectif prif arolygydd Dan Tipton: "Dyw'r heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus a byddwn yn rhoi gwybod i'r Crwner.

"Fe fydd swyddogion Heddlu'r Gogledd yn parhau i gynnal ymholiadau ar ran y Crwner a bydd ffeil yn cael ei baratoi cyn hir."