Buddugoliaeth i Cleverly
- Cyhoeddwyd

Roedd Cleverly yn fuddugol yn yr ail rownd
Fe roedd yna fuddugoliaeth i'r Cymro Nathan Cleverly nos Sadwrn yn ei ornest gyntaf yn y pwysau go-drwm.
Fe gurodd Shawn Corbin o Guyana yn yr ail rownd yng Nghaerdydd.
Hwn oedd y tro cyntaf i Cleverly ymladd ers iddo golli pencampwriaeth is-drwm y WBO i Sergey Kovalev yn Awst 2013.
Ar gyfer y ornest fe roedd Cleverly, 27 oed, yn pwyso 14 st 2 pw, gyda Corbin, 39 oed, yn pwyso 13st 13pw.