BT i gyflogi 190 o beirianwyr newydd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Dywed cwmni BT eu bod yn bwriadu creu 190 o swyddi peirianyddol yng Nghymru er mwyn ehangu'r gwasanaethu band eang.
Yn ôl BT maen nhw'n awyddus i benodi mwy o fenywod.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod yn awyddus i recriwtio yn arbennig felly yn ardaloedd fel Wrecsam, Bangor, Aberteifi, Y Fenni, Caerfyrddin, Machynlleth, Llandrindod, Llanandras, Y Drenewydd, Brynbuga, Caernarfon, Llanberis, Llanwnda, Pwllheli, Rhyl, Bethesda, Abergwaun a Hwlffordd.
Openreach, adain BT sy'n gyfrifol am y band eang, fydd yn recriwtio'r peirianwyr.
Mae'n rhan o gynllun ehangach drwy'r DU i recriwtio 1,600 o beirianwyr.
Dywed Openreach eu bod eisoes wedi sicrhau cysylltiad band eang i fwy na 19 miliwn o dai a busnesau yn y DU.
Fe fydd y peirianwyr newydd yn helpu Openreach i wella'r gwasanaeth i'r cwsmer, gosod llinellau newydd a hefyd atgyweirio unrhyw ddiffygion yn gynt.
Mae'r cwmni yn gobeithio denu cyn filwyr i geisio am y gwaith. Dywedodd y llefarydd fod gan BT gysylltiadau agos dros y blynyddoedd gyda'r lluoedd arfog.
'Disgwyliadau'
Dywedodd Ann Beynon, cyfarwyddwr BT yng Nghymru: "Mae BT yn arwain yr adfywiad economaidd yng Nghymru, gan mai ni yw un o'r buddsoddwyr mwyaf.
"Wrth i fwy a mwy o bobl ddod i ddibynnu ar y we, mae eu disgwyliadau hefyd yn codi.
"Nid yn unig yr ydym yn adeiladu band eang hynod o gyflym, sy'n rhoi hwb i gartrefi a busnesau yng Nghymru, rydym hefyd yn creu swyddi yn lleol gyda lefelau sgil uchel.
"Drwy weithio gydag ein partneriaid yn y sector cyhoeddus rydym yn benderfynol i sicrhau fod Cymru yn y safle gorau posib i fanteisio ar y chwyldro sy'n digwydd ym mand eang."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd1 Awst 2013