Ramsey: Breuddwyd yn dod yn fyw
- Cyhoeddwyd

Dywed chwaraewr canol cae Cymru Aaron Ramsey ei fod wedi breuddwydio ers yn blentyn o sgorio y gol fuddugol yng Nghwpan FA Lloegr.
Ddoe yn erbyn Hull daeth y freuddwyd yn wir, wrth i Ramsey, 23oed, ergydio i gefn y rhwyd yn ystod amser ychwanegol a sicrhau buddugoliaeth o 3-2.
Fe wnaeth gol Ramsey sicrhau fod Arsenal yn ennill tlws am y tro cyntaf mewn naw mlynedd.
"Rwy' wedi meddwl am y diwrnod hwn ers blynyddoedd, fel plentyn ifanc, Mae'n anodd credu'r peth.
"Yn fwy fyth rwy mor hapus i'r tîm, a bod ni wedi ennill tlws eleni.
"Ro ni'n haeddu e ac mae'r rheolwr (Arsen Wenger) hefyd yn ei haeddu - mae e wedi bod yn gefn i'r chwaraewr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, pan oedd rhai yn holi cwestiynau."
Hwn oedd gol rhif 16 i Ramsey y tymor hwn.
Fe wnaeth y Cymro golli bron i bedwar mis o'r tymor gydag anaf i'w goes.
Symudodd Ramsey i Arsenal o Gaerdydd yn 2008.
Dywedodd cyn ymosodwr Arsenal a Chymru, John Hartson y bydd tua 10 o glybiau yn cael eu cysylltu gyda cheisio arwyddo Ramsey yn yr haf.
"Ond dwi ddim yn gweld e'n gadael yn fuan. Mae e wedi setlo yn dda ac mae e'n caru'r clwb.
"Mae e'n chwaraewr penigamp a bydd Arsenal ddim am ei golli."