Bachgen 12 oed wedi'i ganfod
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi dod o hyd i fachgen 12 oed oedd wedi bod ar goll o'i gartref ym Mhort Talbot.
Bu'r bachgen ar goll ers 1.45 dydd Sul.
Bu tîm achub mynydd a hofrennydd yr heddlu yn cynorthwyo yn y chwilio.
Diolchodd yr heddlu i'r cyhoedd am eu cymorth yn ystod yr ymgyrch i ddod o hyd iddo.