Dyn ar goll yn Môr y Canoldir
- Cyhoeddwyd
Mae timau achub wedi rhoi'r gorau i chwilio am ddyn 28 oed yn ardal Môr y Canoldir.
Roedd adroddiadau fod Ian Jones o Aberhonddu wedi neidio dros ochr llong yr oedd o'n gweithio arni.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys bu gwasanaethau achub yn chwilio yn y dyfroedd tua 300 milltir i'r de-ddwyrain o Ynys Malta.
Cwmni Shell oedd yn gyfrifol am reoli'r tancer, ond roedd y tancer yn eiddo i gwmni preifat.
Dywedodd llefarydd ar ran Shell: "Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod, mae ein meddyliau ni gyda'i deulu a'i ffrindiau yn ystod yr amser anodd yma.
"Fe fydd Shell yn cydweithio gyda'r awdurdodau ac eraill yn ystod yr ymchwiliad i'r digwyddiad."